Emma Geliot's picture

Bedwyr Williams - The Starry Messenger film still 2013

 

Mae Cymru yn Fenis unwaith eto eleni gyda arddangosfa Bedwyr Williams, The Starry Messenger, sy n archwilio perthnasedd rhwng serydda a r unigolyn, y cosmos, a r l yr amatur mewn byd proffesiynol. Cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Bedwyr am y pleser a r pwysau o gynrychioli gwlad.

 

 

Nia Roberts: Mae chwe mis yn gyfnod hir i gael arddangosfa ymlaen, yn enwedig gan ei bod mor bell i ffwrdd a dim llawer o gysylltiad gyda r arddangosfa unwaith iddi agor. Ydi hyn yn teimlo n od arl cyfnod mor ddwys o baratoi?

 

 

Bedwyr Williams: Mae o yn gyfnod hir a dwi n meddwl am yr invigilators yn gorfod bod efo fo gyhyd,bosib yn diflasu arno. Mae n atgoffa fi o fachgen Almaenig a symudodd i n stryd ni pan oeddwn yn tyfu fyny yn Hen Golwyn. Os oeddan ni yn talu iddo mi fuasai yn gwneud ei fusnes arbuilding site gerllaw o r enw Meadowbank . Roedd ybuild-up yn anferth, taro r fargen a wedyn pawb yn cerdded at y lle i wylio r weithred. Wedyn fuasem ni ddim yn mynd ynl yna am wythnosau ac erbyn hynny roedd o wedi crino yn yr haul.

 

 

NR: Oeddet ti n teimlo pwysau ychwanegol oherwydd fod yr arddangosfa ar lwyfan mor enfawrr Biennale yn Fenis a bo ti ncynrychioli Cymru neu est ti o i chwmpas hi fel unrhyw arddangosfa arall?

 

 

BW: Mi oedd na bwysa ond nes i roi y pethBiennale i un ochr yn fy meddwl a trio mwynhau y peth. Does dim disgwyliadau anferth ar Gymru ac os fysa ni ddim yno fysa y byd celf ddim yn poeni ryw lawer ond mae hyn yn beth da achos mae yn tynnu y pwysa i ffwrdd.

 

 

NR: Mae graddfa r gosodwaith yn drawiadol yn Fenis? Oeddem wedi gweld blas o hyn yn ddiweddar yn yr arddangosfa My Bad (yn Ikon, Birmingham a Glynn Vivian off-site yn Mission, Abertawe) - wyt ti n mwynhau gweithio ar osodweithiau mwy fel hyn - ac yn Fenis lle mae thema gryf yn dilyn o un gofod i r llall yn hen leiandy y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice?

 

 

BW: Yndw, dwi n licio gwneud rhywbeth sydd yn gwneud i mi deimlo n fach wrth ei yml o, neu mod i rhwysut fel ffigwr mewn model anferth. Mewn ffordd rhyw fath o dioramas 1:1 ydi r gwaith diweddara.

 

 

NR: Sut wnest ti fynd o i chwmpas hi i feddwl am gynnwys yr arddangosfa? Ddaru ti deilwrio syniadau yn arbennig i ofod y Ludoteca?

 

 

BW: Mi wnes i wneud model ar y cyfrifiadar, roeddwn i wedyn yn cerdded y gofod rhithiol yma a cheisio dychmygu be fuaswn isho ei weld yno fel ymweldydd i r sioe.

 

 

NR: Rwyt ti wedi bod yn drylwyr iawn - mae r arddangosfa yn gryn brofiad i r synhwyrau! Wnest ti fwynahau hyn ag ydi hyn yn rhwybeth ti n meddwl neith ddatblygu yn dy waith?

 

 

BW: Yndi, dwi n licio medru rheoli r amgylchedd i gyd. Wedi r cyfan mi roeddwn i n arfer bod ynRailway modeller

 

 

NR: Mae ganddo ti ffilm wych sydd wedi bod yn fodd o dy gael di yn rhan o r arddangosfa a chael dy lais di yna. Sut brofiad oedd gweithio gyda Casey Raymond a Ewan Jones Morris?

 

 

BW: Mi roeddwn i wedi edmygu eu gwaith ers sbel ac roedd Fenis yn gyfle perffaith i wneud rhywbeth gyda nhw. Roedd o n broses od achos mi o n i n ildio rheolaeth mewn rhai agweddau o r ffilm er mai dilyn fy sgript i oedden nhw. Do n i ddim eisiau fo edrych fel ffilmartist fel y cyfryw ag roedd Casey ag Ewan yn berffaith ar gyfer hynny gan eu bod yn fwy meddwl agored.

 

 

NR: Gewn ni fwy o ffilmiau pl s? Oes rhai eraill ar y gweill?

 

 

BW: Oes, ma gen i syniadau am chydig o ffilmiau, Mae n rhyfedd achos mae n gas gen i ffilmiau artistiaid ar y cyfan. Maellais yr artist mewn ffilmaiu mor dwatlyd.

 

 

NR: Ha! cytuno ond yn hon, dy lais di fel cymeriad sy n gofiadwy, ychydig fel y cymeriadau gwelwn yn dy waith perfformiadol.

 

 

BW: Dwi n meddwl fod gweithio fel hyn yn ddatblygiad cyffrous gan ei fod yn ffordd o asio gwaith perfformiad gyda r gwaith 3D a 2D.

 

 

NR: Mae Fenis yn ddinas anhebyg i unrhyw ddinas arall yn y byd. Ma na hudoledd arbennig yn perthyn i r lle ond mae realiti gweitho yna yn eitha gwahanol - be oedd y peth anodda am osod y gwaith yna?

 

 

BW: Mi roedd bob dim yn eitha hawdd heblaw prynu pethau oeddan ni angen. Mi ro n i bron a rhoiheadbutt i ryw foi mewn siop HIFI yn yml Rialto a fe gawsom ni ddiwrnod ofnadwy mewn st d manwerthu ar y tir mawr yn chwilio ambits and bobs .I wneud pethau yn waeth mi wnaeth na hen ddyn ffeintio ar y bws oherwydd y gwres.

 

 

NR: Oeddet ti yna am gyfnod o rai wythnosau yn gosod yr arddangosfa. Buest ti yn Fenis am gyfnod estynedig yn 2005 hefyd, ar breswyliad ar gyfer arddangosfa Cymru yn y Biennale y flwyddyn honno pan ddaru ti greu r llyfr BASTA am y profiad. Wyt ti n meddwl fydd y profiadau gefest ti yna eleni yn bwydo mewn i dy waith yn y dyfodol?

 

 

BW: Na, dwi n meddwl tro hyn mi roeddwn mewn stad meddwl gwahanol, er wnes i fwynhau pasio r ysbyty bob dydd, roedd hunna n agoriad llygad. Hefyd roedd yna barot oedd yn gweiddi pethau arna ni dwi n yn amau neith o droi fyny yn rywle a r cactus oedd yn tyfu ar i lawr yn y fflat drws nesa

 

 

NR: Mae dangos yn Fenis yn ymrwymiad anferth o ran amser a llafur. Wyt ti n meddwl ddylse fodna gyfnod estynedig o gefnogaeth at gyfer yr artist sy n dangos yn Fenis wedi r Biennale?

 

 

BW: Mae o yn eitha anodd, o bosib bod angen meddwl am y ramp ar gyfer glanio yn ogystal ag yr un ar gyfer neidio. Sori, cymharu hyn hefo Evel Knievel ydw i.

 

 

NR: Fe gest ti sylw ffantastig yn y wasg sut un wyt ti am ddarllen amdano ti dy hun?

 

 

BW: Dwi n darllen y pethau neis a ma hunna n gwneud fi n hapus ond dwi n darllen y pethau negyddol a mynd yn obsessed efo r bobl sydd wedi sgwennu nhw.

 

 

NR: Dwi meddwl fod gen ti fwy o reswm i fod yn hapus na bod yn obsessed hefo neb ar ol Fenis felly.

 

 

Ti n cael dy gyfri yn un o r artistiaid sy n llwyddo i fyw a gweithio mewn ardal wledig a ti wedi bod yn gysylltiedig Grizedale Arts yn Cumbria, esiampl cl r o sefydliad llwyddiannus sy n gallu cyplysu celf cyfoes bywyd gwledig, ers yn gynnar yn dy yrfa. Ti n meddwl fod pobl yn gwneud gormod o ffys am lle ti n byw, am dy fod yn creu celf gyfoes allanyn y sticks ? Oes na bwysau arnat ti i symud i rywle fel Llundain?

 

 

BW: Yn y diwedd y dyddiau yma pres ydi bob dim a dydi o ddim ots lle wyt ti n byw.

 

 

Pres = amser = celf.

 

 

NR: Mae n rhy fuan i fesur dy lwyddiant hir-dymor oherwydd Fenis ond pa chwe gair fasa yn cwmpasu r profiad i ti?

 

 

Telesg p

 

 

Crio

 

 

Prosecco

 

 

Mosgito

 

 

Poeth

 

 

Spritz

 

 

Diolch Bedwyr. Edrychwn ymlaen i weld yr arddangosfa yn nes adre yn y dyfodol. I gael blas o r gwaith cyn hynny ewch i:

 

 

http://vimeo.com/69550189

 

 

Bedwyr Williams yw r artist o Gymru sy n cymryd rhan yn Cymru yn Fenis/Wales in Venice, Digwyddiad Cyfochrog yn y 55fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol. La Biennale di Venezia, mewn prosiect yn cael ei churadu ar y c d gan MOSTYN ac Oriel Davies ac a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

 

http://www.artscouncilofwales.org.uk/artsinwales/venice

 

 

This is the Welsh version of Nia Roberts' interview with Bedwyr Williams, the artist representing Wales at the 55th Venice Biennale,featured in issue one of CCQ Magazine.